Palas Buckingham
Mae’r seren snwcer Ronnie O’Sullivan wedi mynd i Balas Buckingham heddiw i dderbyn Order of the British Empire (OBE) gan Dywysog Cymru.

Yn chwaraewr proffesiynol ers 1992 ac yn bencampwr y byd bum gwaith, mae’r potiwr 40 oed yn derbyn OBE am ei wasanaeth i fyd snwcer.

Hefyd mae cyfarwyddwr ymgyrch etholiadol David Cameron yn derbyn anrhydedd.

O hyn allan bydd yr Awstraliad sy’n cael y clod am sicrhau buddugoliaeth i’r Ceidwadwyr yn yr etholiad cyffredinol flwyddyn yn ôl, yn cael ei adnabod fel Syr Lynton Crosby.

Hefyd mae’r Fonesig Siân Phillips, actores 82 oed o Waun-Cae-Gurwen, yn derbyn clod am ei chyfraniad i fyd actio.

Mae wedi actio yn New Tricks, Midsomer Murders a Holby City.