Nicola Sturgeon (Llun PA)
Mae Prif Weinidog yr Alban yn dweud bod ei phlaid wedi creu hanes trwy fod yn Llywodraeth yno am y trydydd tro.

Ac wrth i’r wawr dorri, roedd yr SNP yn nesu at gael mwyafrif llwyr ar ôl cipio pob sedd etholaeth yn Glasgow a chwalu Llafur yno – fel y gwnaethon nhw yn etholiadau San Steffan y llynedd.

Ond y stori arall oedd cynnydd y Ceidwadwyr a’r tebygrwydd y bydden nhw’n gwthio Llafur i’r trydydd lle.

Fe lwyddodd arweinydd y blaid, Ruth Davidson, i ddod o’r pedwerydd safle i gipio sedd Canol Caeredin oddi ar yr SNP.

Fe lwyddon nhw i ennill sedd Gorllewin Aberdeenshire oddi ar blaid y Llywodraeth hefyd.

Methu a wnaeth yr arweinydd Llafur, Kezia Dugdale, i ennill sedd etholaeth ond fe gafodd ei hethol ar y rhestr yn rhanbarth Lothian.

Meddai Nicola Sturgeon

“Petaech chi wedi dweud wrtha’ i pan o’n i yn fy arddegau, yn dechrau mewn gwleidyddiaeth, y byddai’r SNP ryw ddydd yn ennill pob etholaeth yn n inas Glasgow, nid mewn un etholiad ond dau, fydden i brin yn gallu credu hynny,” meddai Nicola Sturgeon.

“Yr hyn sydd y tu hwnt i amheuaeth bellach yw fod yr SNP wedi ennill trydydd etholiad yn olynol i Senedd yr Alban. Dyw hynny ddim wedi digwydd o’r blaen yn hanes Senedd yr Alban. R’yn ni wedi gwneud hanes heddiw.”