Fe fydd miloedd o feddygon iau yn Lloegr yn cynnal streic heddiw ac, am y tro cyntaf yn hanes y Gwasanaeth Iechyd (GIG), fyddan nhw ddim yn cynnig eu gwasanaethau mewn achosion brys.

Daw’r streic ar ôl i’r Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Hunt gyhoeddi y bydd yn bwrw mlaen gyda’r cytundeb newydd.

Mae Jeremy Hunt wedi apelio’n uniongyrchol ar y meddygon i beidio atal gofal mewn achosion brys, gan ddweud y bydd yn peryglu cleifion mewn adrannau brys, ac unedau mamolaeth a gofal dwys.  Serch hynny, meddai, mae’r GIG wedi gwneud “ymdrechion sylweddol” i sicrhau diogelwch cleifion.

Fe fydd y meddygon iau yn cychwyn eu streic am 8yb bore dydd Mawrth hyd at 5yp, ac eto ar ddydd Mercher, ar ôl i’r Llywodraeth a’r Gymdeithas Feddygol Brydeinig (BMA) fethu a dod i gytundeb.

Mae Jeremy Hunt yn mynnu mai ceisio gwella gwasanaethau’r GIG ar benwythnosau yw’r nod.

Mae’r BMA wedi amddiffyn y streic gan bwysleisio y byddai wedi canslo’r streic petai Jeremy Hunt wedi cytuno i beidio gorfodi’r cytundebau ar feddygon iau.

Mae’r BMA hefyd wedi pwysleisio y bydd gofal brys yn cael ei roi gan ymgynghorwyr yn ystod y streic.