Mae gan fwy na 150 o blant sy’n byw ar eu pennau eu hunain mewn gwersyll ffoaduriaid yn Calais, berthnasau yng ngwledydd Prydain. Dyna ganfyddiad gwaith ymchwil a gyhoeddir heddiw.

Mae’r adroddiad gan yr elusen Citizens UK yn dweud fod 157 o blant yn y gwersyll a gafodd ei enwi ‘Y Jyngl’ heb fod dan ofal oedolyn… ond fod ganddyn nhw aelodau o’u teulu agos yn byw yng ngwledydd Prydain.

O ganlyniad, mae pedair elusen fawr – Citizens UK, Achub y Plant, Unicef UK a Help Refugees – wedi galw ar i lywodraeth San Steffan weithredu a chynnwys y mater yn y Mesur Mewnfudo ddydd Llun.

O blith y 157 o blant yn Calais heb oedolyn, mae dau ohonyn nhw mor ifanc â 10 oed. Mae’r plant yn diodde’ o effeithiau rhyfel, maen nhw’n byw o’r llaw i’r genau, ac yn wynebu proses fiwrocrataidd faith cyn gweld eu teuluoedd eto.

Mae’r Gweinidog Mewnfudo, James Brokenshire, wedi amddiffyn record Llywodraeth Prydain, gan ddweud fod 24 o blant gyda theuluoedd yn y Deyrnas Unedig, eisoes wedi cael yr hawl i ddod o Ffrainc yn ystod y chwech wythnos diwetha’.