Fe fydd hyd at 61 o ganghennau Swyddfa’r Post yn cael eu symud i siopau WHSmith dros y flwyddyn nesaf, fe gyhoeddwyd heddiw.

Mae swyddfeydd y Goron, fel maen nhw’n cael eu galw, fel arfer i’w gweld ar y stryd fawr.

Mae tua 300 o swyddfeydd y Goron yn parhau ar ôl i 107 gael eu trosglwyddo i WHSmith dros y degawd diwethaf.

Dywedodd prif weithredwr Swyddfa’r Post, Paula Vennells y byddai cyd-weithio gyda WHSmith yn “sicrhau presenoldeb canghennau Swyddfa’r Post ar y stryd fawr yn ogystal â dod a buddsoddiad i’r rhwydwaith.”

Nid oes manylion ar hyn o bryd ynglyn a pha ganghennau fydd yn symud.