Y Prif Weinidog David Cameron (Llun: PA)
Mae pwysau ar i’r Prif Weinidog David Cameron wneud datganiad yn y senedd ar ei gysylltiadau â materion ariannol dadleuol ei ddiweddar dad.

Ymysg y pethau a ddaeth i’r amlwg ym Mhapurau Panama a gafodd eu cyhoeddi’r wythnos yma oedd fod y Prif Weinidog wedi gwneud £19,000 o elw o gronfa yn y Bahamas a sefydlwyd gan Ian Cameron.

Wrth alw am ddatganiad ffurfiol ar y mater yn Nhŷ’r Cyffredin, mae arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn, yn honni bod David Cameron wedi ‘camarwain y cyhoedd’ ac wedi ‘colli ymddiriedaeth pobl Prydain’.

Roedd y Prif Weinidog wedi gwerthu ei gyfraniadau ef a’i wraig Samantha yn Blairmore Holdings, un o gronfeydd ei dad, yn 2010, ac mae’n gwadu iddo osgoi unrhyw drethi. Roedd wedi talu treth incwm ar y difidend ac roedd y £19,000 o elw islaw’r trothwy lle’r oedd angen talu treth enillion cyfalaf.

Araf i gyfaddef

Mae’r Prif Weinidog wedi cael ei feirniadu’n hallt am yr amser a gymerodd i ddatgelu’r manylion ariannol hyn.

Roedd wedi gwrthod dweud dim ar y cychwyn gan ddweud mai ‘mater preifat’ oedd hyn, ac wedyn wedi gwadu ei fod yn elwa dim o’r cronfeydd hyn ar hyn o bryd nac yn y dyfodol.

“Fe gymerodd hi bum datganiad cynnil mewn pum niwrnod i’r Prif Weinidog gyfaddef iddo elwa’n bersonol o fuddsoddiad mewn hafan di-dreth yn y Caribî,” meddai Jeremy Corbyn.

“Rhaid iddo’n awr roi adroddiad llawn o’i faterion ariannol preifat a gwneud datganiad i’r senedd yr wythnos nesaf.

“Tryloywder llwyr gan y Prif Weinidog a gweithredu penderfynol yn erbyn osgoi trethi yw’r unig ffordd i ymdrin â hanfodion y sgandal yma.”