Mae timau achub oedd wedi bod yn chwilio am ddau ddringwr a aeth ar goll ar Ben Nevis, wedi dod o hyd i gyrff dyn a dynes ar y mynydd.

Roedd y dringwyr profiadol, Rachel Slater, 24, a Tim Newton, 27, yn dod o Bradford, Gorllewin Swydd Efrog, ac wedi bod ar goll ers Chwefror 15.

Roedd nifer o dimau achub wedi bod allan yn chwilio amdanyn nhw ers hynny, ond roedd tywydd garw a chwymp eira wedi rhwystro’u hymdrechion ar adegau.

Ond fe ddaeth y datganiad neithiwr gan Heddlu’r Alban: “Yn dilyn adroddiad gan aelod o’r cyhoedd, daethpwyd o hyd i gyrff dyn a dynes yn ardal Ben Nevis heno.”