Mae cerddor clasurol wedi’i gael yn euog o lofruddio ei bianydd o wraig, ar ol ei churo a’i thagu i farwolaeth.
Roedd John Martin, 48, sydd yn ddinesydd Norwy, yn hollol ddiemosiwn yn Llys y Goron Manceinion, wrth i’r rheithgor ei gael yn euog o ladd Natalia Strelchenko.
Fe ddaethpwyd o hyd i’w wraig 4 troedfedd 11 modfedd gydag anafiadau difrifol i’w phen a’i gwddw yn eu cartre’ yn Newton Heath ger Manceinion, ar eu hail ben-blwydd priodas.
Fe gafwyd John Martin yn ddieuog o geisio llofruddio dyn ifanc na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol.
Mae disgwyl i John Martin gael ei ddedfrydu ddydd Llun.