Rolf Harris ym Mhrifysgol Bangor (Llun:Gerallt Llewelyn)
Mae Rolf Harris wedi ymddangos yn y llys heddiw wedi ei gyhuddo o saith o droseddau rhyw eraill – gan gynnwys ymosodiad ar ddynes anabl.

Honnir hefyd ei fod wedi ymosod ar ferch oedd o dan 14 oed yng Nghanolfan Deledu’r BBC yng ngorllewin Llundain yn 1983. Hefyd cyhuddir Rolf Harris o ymosod yn anweddus ar ddynes yn Television Centre yn 2004.

Mae’r artist o Awstralia sy’n 85 mlwydd oed eisoes yn treulio chwe blynedd yng Ngharchar Stafford am droseddau rhyw yn erbyn pedair merch – gydag un ohonyn nhw yn ddim ond yn tua saith neu wyth oed pan ddigwyddodd yr ymosodiad.

Fe wnaeth Rolf Harris ymddangos yn y llys trwy gyswllt fideo heddiw wedi ei gyhuddo o saith o ymosodiadau rhyw l ar ferched a menywod dros bedair degawd, gyda rhai’n dyddio’n ôl i’r 1970au cynnar.

Honnir hefyd ei fod wedi ymosod ar ferched yn Covent Garden, Portsmouth ac yng Nghaergrawnt.

Plediodd yn ddieuog i’r holl gyhuddiadau yn erbyn.

Mae’r achos wedi cael ei anfon i Lys y Goron Southwark yn Llundain lle bydd Rolf Harris yn ymddangos ar 14 Ebrill.