Y bwriad yw helpu siopau'r stryd fawr i gystadlu â gwerthwyr ar-lein, yn ôl y llywodraeth
Bydd Aelodau Seneddol yn pleidleisio heddiw ar drosglwyddo cyfreithiau masnachu ar ddydd Sul i gynghorau lleol, gan olygu posibilrwydd y gallai siopau agor am hyd at chwe awr yn fwy.

Ond dyw hi ddim edrych yn debygol ar hyn o bryd y caiff mesur y llywodraeth sêl bendith yn y bleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin.

Mae hynny oherwydd bod yr SNP bellach wedi cyhoeddi y byddan nhw’n gwrthwynebu’r cynlluniau, er na fyddai’r newid yn effeithio ar yr Alban – dim ond ar Gymru a Lloegr.

Mae’r penderfyniad wedi codi gwrychyn gweinidogion San Steffan, gydag un ffynhonnell yn ei ddisgrifio fel cam “siomedig a rhagrithiol” ar ôl i’r SNP ddweud yn y gorffennol y bydden nhw’n ymatal.

Hawliau gweithwyr

Daw penderfyniad yr SNP yn dilyn pwysau cynyddol gan y blaid Lafur, sydd wedi codi hawliau gweithwyr fel rheswm dros beidio â chefnogi’r mesur.

Mae’n debyg y bydd hyd at 30 o ASau Torïaidd hefyd yn mynd yn erbyn eu plaid ac yn pleidleisio yn erbyn y cynllun, gydag 20 arall yn bwriadu ymatal.

Roedd yr SNP wedi dweud y bydden nhw hefyd yn ymatal, cyhyd â bod cyfreithiau cyflogaeth Prydain yn cael eu diwygio i sicrhau na fydd yn rhaid i weithwyr weithio ar ddydd Sul yn erbyn eu hewyllys.

Fodd bynnag, mae dirprwy arweinydd y blaid nawr wedi dweud nad yw’r diwygiadau hyn yn mynd yn ddigon pell.

‘Helpu siopau’r stryd fawr’

Dywedodd ffynhonnell o’r llywodraeth ei fod yn “anhygoel” bod plaid sy’n ymgyrchu dros ddatganoli o Whitehall, bellach yn erbyn trosglwyddo pwerau i gynghorau lleol.

Yn ôl y Canghellor, George Osborne, byddai’r cynllun i ehangu oriau masnachu ar ddydd Sul yn helpu siopau’r stryd fawr i gystadlu â masnachwyr ar-lein.