Dylid codi dwy geiniog yn ychwanegol am litr o betrol i helpu talu am adeiladu rhwydwaith o lonydd beic ym Mhrydain.

Dyna yw barn y cyn-bencampwr Olympaidd Chris Boardman, sy’n ymgynghorydd polisi ar feicio i’r Llywodraeth.

Gydag ymchwil yn dangos bod 70% o’r boblogaeth o blaid wedi mwy o lonydd beicio ar briffyrdd yn eu hardal, dywed Chris Boardman fod angen gwario llawer mwy ar drafnidiaeth gynaliadwy.

Wrth siarad ym Mhencampariaethau Beicio Trac y Byd yn Llundain, meddai:

“Gan mai lonydd beicio yw’r ffordd fwyaf economaidd o wario ar drafnidiaeth, dyw diffyg arian ddim yn ddadl ddilys. Rydym yn gwario £20 biliwn ar ffyrdd.

“Fe ddylen ni fod yn neilltuo 4% yn rheolaidd o’r cyfanswm yr ydym yn ei wario ar drafnidiaeth ar wneud beicio yn ddewis ymarferol i bobl deithio.”