Mae’r llofrudd Levi Bellfield wedi cyhuddo Heddlu Swydd Surrey o ymddwyn yn “ddi-feddwl” wedi iddyn nhw ddweud ei fod e wedi cyfaddef iddo ladd y ferch 13 oed Milly Dowler yn 2002.

Mae Bellfield, 47, wedi’i garcharu am oes am lofruddio dwy ferch, Amelie Delagrange a Marsha McDonnell ac am geisio llofruddio Kate Sheedy.

Dywedodd yr heddlu ei fod e wedi cyfaddef llofruddio Milly Dowler hefyd, ond mae Bellfield wedi gwadu hynny mewn llythyr sydd wedi cael ei weld gan y Sun on Sunday.

Ac mae Bellfield yn dweud nad yw’r heddlu ychwaith wedi rhoi ystyriaeth i’w deulu yntau.

Mae cyfreithwyr ar ran Bellfield yn honni bod yr heddlu wedi recordio cyfweliad yn anghyfreithlon.

Cafodd Milly ei chipio wrth gerdded adref o’r ysgol ym mis Mawrth 2002, a chafwyd hyd i’w chorff yn Swydd Hampshire, 25 o filltiroedd i ffwrdd o’i chartref yn Walton-on-Thames yn Swydd Surrey.