Un o'r awyrennau gafodd ei ddefnyddio i gludo'r cyffuriau o'r Almaen i Brydain (llun: NCA/PA)
Mae peilot wedi cael ei garcharu am 19 mlynedd ar ôl helpu i smyglo gwerth £33m o gocên i Brydain.

Roedd Andrew Wright, 52, oedd hefyd yn cael ei alw’n ‘Biggles’, wedi cludo 268kg o’r cyffur mewn wyth trip rhwng Swydd Efrog a’r Almaen yn ystod hydref 2014.

Cafodd dau ddyn oedd yn ganolog i’r cynllun – Mark Dowling, 43, a Jamie Williams, 38 – eu dedfrydu i 24 a 23 mlynedd yn y carchar am eu rhan nhw.

Dywedodd y barnwr Nicholas Cooke QC yn llys yr Old Bailey fod maint y cargo o gyffuriau roedd y dynion wedi’i gludo yn “eithriadol o ddifrifol”.

‘Gwerth dros £4m’

Roedd Andrew Wright yn berchennog ar gwmni Skyviews R Us Ltd oedd yn tynnu lluniau o’r awyr.

Ond fe ddefnyddiodd ddau o awyrennau ysgafn Cessna y busnes i deithio i’r Almaen i gasglu’r cocên odi wrth Jamie Williams, oedd casglu’r cyffur yn yr Iseldiroedd cyn eu rhoi nhw ar yr awyren.

Byddai Jamie Williams wedyn yn teithio nôl i Brydain a chyfarfod Andrew Wright yn y maes awyr yn Selby, cyn cludo’r cyffuriau i Mark Dowling yn Sussex.

Cawsant eu dal ar ôl i swyddog ffiniau ddod o hyd i bedwar bloc o gocên yng nghefn car Porsche Cayenne 4×4 Andrew Wright, a rhagor wedyn yn ei awyren.

Fe glywodd y llys bod gan y cyffuriau werth stryd o tua £4.25m, a bod y llwyth gafodd ei smyglo gan y tri dyn yn 8% o’r holl gocên oedd wedi cael ei feddiannu ym Mhrydain y flwyddyn honno.