Mae disgwyl i Ysgrifennydd Iechyd San Steffan, Jeremy Hunt gyhoeddi buddsoddiad o £4.2 biliwn a fydd yn arwain at Wasanaeth Iechyd ’di-bapur’ i Loegr.

Fe fydd Hunt yn cyhoeddi sut y bydd Gwasanaeth Iechyd o’r fath yn fwy cyfleus, yn helpu clinigwyr i roi diagnosis yn gynt a threulio mwy o amser yn gofalu am gleifion.

Fe allai’r cynllun hefyd arbed £22 biliwn drwy leihau gwastraff.

Mae disgwyl i’r cynllun gynnwys neilltuo £1.8 biliwn i waredu hen dechnoleg, £1 biliwn ar ddiogelwch ar y we a data, a £750 miliwn i drawsnewid gofal y tu allan i’r ysbyty, meddyginiaethau ac i ddigideiddio gofal cymdeithasol a gofal brys.

Fe fydd £400 miliwn hefyd yn mynd at greu gwefan newydd i’r Gwasanaeth Iechyd, datblygu sawl ap a darparu gwasanaethau di-wifr.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Hunt: “Mae gan y Gwasanaeth Iechyd gyfle i ddod yn arweinydd byd wrth gyflwyno technoleg newydd – sy’n golygu gwella canlyniadau i gleifion a chwyldro o ran gofal yn y cartref.”

Erbyn 2020, y gobaith yw y bydd 25% o gleifion Lloegr sy’n dioddef o gyflwr hirdymor yn cael monitro eu cyflwr o bell.

Mae gobaith hefyd y bydd 10% o gleifion Lloegr yn defnyddio gwasanaethau ar-lein erbyn mis Mawrth y flwyddyn nesaf.

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Alzheimer: “Mae gan y buddsoddiad hwn botensial anferth i helpu ein system iechyd a gofal cymdeithasol i gyflwyno gofal sy’n cael ei deilwra ar gyfer yr unigolyn.”

Ychwanegodd y gallai technoleg newydd helpu cleifion dementia i fyw’n annibynnol ac yn eu cartrefi eu hunain.

Ond dywedodd llefarydd iechyd y Blaid Lafur, Justin Madders fod angen i Jeremy Hunt gyhoeddi sut y mae’n bwriadu mynd i’r afael â’r argyfwng yn y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr.

“Ni all y Torïaid guddio rhag y ffaith fod y Gwasanaeth Iechyd yn mynd am yn ôl o dan eu gofal nhw.

“Mae adrannau ysbytai wedi dod yn beryglus o lawn, mae cleifion yn aros am oriau mewn adrannau brys, ac mae’r Gwasanaeth Iechyd yn wynebu’r argyfwng ariannol gwaethaf ers cenhedlaeth.”