Ty'r Cyffredin
Fe fydd Aelodau Seneddol yn taro pleidlais heddiw am gynlluniau dadleuol ynglŷn â ffracio o dan ardaloedd o’r Parciau Cenedlaethol.

Mae rheoliadau drafft y Llywodraeth yn nodi y byddai’r ffracio ond yn digwydd 1,200 metr o dan y parciau cenedlaethol, sy’n ardaloedd o harddwch eithriadol ac yn cynnwys safleoedd o etifeddiaeth fyd-eang ac ardaloedd lle mae dŵr daear.

Ond, mae yna alwadau am “fesurau diogelwch llymach” i’r cynllun, gyda rhai Aelodau Seneddol yn mynegi eu hanfodlonrwydd wrth i’r cynlluniau gael eu cyflwyno yn Nhŷ’r Cyffredin neithiwr.

Mae’r Llywodraeth wedi’u beirniadu hefyd am gyflawni tro pedol wrth iddyn nhw gyflwyno’r cynlluniau wythnosau wedi etholiad cyffredinol mis Mai.

‘Gwarthus’

Fe ddywedodd Llefarydd Ynni Llafur,  Lisa Nandy, fod gweinidogion wedi defnyddio’r “drws cefn seneddol” wrth geisio cymeradwyo “rheoliadau gwan” heb drafodaeth.

“Ni ddylai ffracio barhau ym Mhrydain tan y bydd mesurau diogelwch cryfach yn eu lle i ddiogelu ffynonellau dŵr yfed a rhannau sensitif o’n cefn gwlad fel ein parciau cenedlaethol.”

Fe wnaeth arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Tim Farron, hefyd awgrymu fod y Llywodraeth yn ceisio “sleifio” trwy’r penderfyniad heb “ddadl addas”.

Er hyn, esboniodd llefarydd ar ran adran Ynni a Newid Hinsawdd Llywodraeth y DU y bydd y rheoliadau yn “rhoi hwb i’r diwydiant wrth ddiogelu’r amgylchedd a’r bobl”.

“Ddoe, fe wnaeth adroddiad y Grŵp Tasglu ar gyfer nwyon siâl gadarnhau’r union beth yr ydyn ni wedi’i ddweud ers amser – gyda’r safonau cywir yn eu lle, gall ffracio gael ei gynnal yn ddiogel.”