Fe allai arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn wynebu gwrthdystiad o fewn ei gabinet cysgodol wrth iddo fynnu mai fe fydd yn cael y gair olaf am wrthwynebiad y blaid i gyrchoedd awyr yn Syria.

Mae Corbyn yn mynnu bod rhaid i’w aelodau seneddol wrando ar aelodau’r blaid.

Mae lle i gredu bod y rhan fwyaf o’i gabinet yn cefnogi cynnal cyrchoedd awyr tros Syria mewn ymgais i drechu’r Wladwriaeth Islamaidd.

Mae disgwyl i Corbyn a’i gabinet cysgodol gyfarfod ddydd Llun i drafod safbwynt y blaid cyn cyfarfod llawn o’r blaid yn y nos.

Mae Corbyn eisoes wedi wfftio cudd-wybodaeth sy’n awgrymu bod y Wladwriaeth Islamaidd yn defnyddio Syria fel man cyfarfod i drefnu ymosodiadau brawychol yn erbyn gwledydd Prydain.

Mae e hefyd wedi mynegi amheuaeth ynghylch honiadau gan Brif Weinidog Prydain, David Cameron fod 70,000 o filwyr troed cymhedrol Syria yn brwydro yn erbyn y Wladwriaeth Islamaidd.

Mae Corbyn yn amau “teyrngarwch” y milwyr ac fe ddywedodd nad yw cynnig unfrydol gan Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig yn ddigon o gyfiawnhad dros gynnal cyrchoedd awyr.

Dywedodd wrth raglen Andrew Marr y BBC y byddai bomio Syria yn “tynnu sylw oddi ar y broses wleidyddol” i roi terfyn ar y rhyfel cartref, ac y byddai’n arwain at ladd pobol gyffredin.

Ar fater pleidlais rydd, dywedodd Corbyn: “Does dim penderfyniad ynghylch hynny eto, rwy am ddarganfod beth mae ASau yn ei feddwl.

“Yn amlwg, mae safbwyntiau cryf y naill ffordd a’r llall. Byddwn yn cynnal rhagor o drafodaethau ynghylch hyn. Byddwn yn gwneud y penderfyniad hwnnw, nid nawr ond yn nes ymlaen.”

Ychwanegodd Corbyn ei fod wedi derbyn ymateb ynghylch mater Syria gan 70,000 o aelodau’r Blaid Lafur.

Ond mae’r holiadur wedi cael ei feirniadu a’i wfftio fel ymgais i roi pwysau ar ei gabinet cysgodol.