Saeed Jaffrey
Mae’r actor Bollywood, Saeed Jaffrey, a oedd wedi ymddangos mewn nifer o ffilmiau gan gynnwys A Passage To India a Gandhi, wedi marw yn 86 oed.

Roedd wedi actio mewn dros 150 o ffilmiau ac mewn rhaglenni teledu oedd yn cynnwys Tandoori Nights, The Far Pavilions a The Jewel In The Crown.

Yn ôl datganiad, cafodd Saeed Jaffrey ei daro’n wael yn ei gartref yn Llundain yn dilyn gwaedlif ar yr ymennydd.

Bu farw yn dawel yn ystod oriau mân 14 Tachwedd mewn ysbyty yn Llundain.

Perfformio gwaith Dylan Thomas

Cafodd ei eni yn India, ac fe wnaeth sefydlu ei gwmni theatr ei hun yn Saesneg yn ninas Delhi, lle bu’n ymddangos mewn cynyrchiadau Dylan Thomas, William Shakespeare, Oscar Wilde a Tennessee Williams.

Roedd hefyd wedi ymddangos mewn dramâu yn y West End ac mewn llawer o gynyrchiadau dros y wlad, gan gynnwys chwarae’r rhan Oberon yn A Midsummer Night’s Dream gan Shakespeare.

Yn argraffiad y Mileniwm y Guinness Book of Records, cafodd Saeed Jaffrey ei enwi fel yr unig actor o India i ymddangos mewn 18 o ffilmiau rhyngwladol. Mae’r actor hefyd wedi ymddangos mewn mwy na  100 o ffilmiau yn India.

Yn 1998, daeth yn rhan o’r teulu Asiaidd cyntaf i ymddangos yn rheolaidd yn opera sebon ITV, Coronation Steet, gan chwarae rhan Ravi Desai.

Ar gyfer y BBC World Service, fe wnaeth ysgrifennu a darlledu cannoedd o sgriptiau yn Hindi, Wrdw a Saesneg.

Mae’n gadael ei wraig Jennifer Jaffrey, a thri o blant o’i wraig gyntaf, yr actores a’r awdur, Madhur Jaffrey.

Bydd ei angladd yn cael ei gynnal yn Llundain mewn tua phythefnos..