David Cameron
Mae David Cameron wedi croesawu’r “cyfle hanesyddol” i’r DU ac India gydweithio wrth i Brif Weinidog y wlad Narendra Modi ymweld â’r DU.

Dyma’r tro cyntaf i Brif Weinidog o India ddod i’r DU ers bron i ddegawd.

Fe fydd David Cameron yn cwrdd â Narendra Modi ar gyfer trafodaethau yn Llundain ac yn ddiweddarach yn Chequers. Mae disgwyl i Narendra Modi hefyd gwrdd â’r Frenhines ym Mhalas Buckingham yn ystod ei ymweliad.

Prydain yw’r buddsoddwr mwyaf yn India ymhlith gwledydd yr G20 tra bod India yn buddsoddi mwy yn y DU na gweddill gwledydd yr Undeb Ewropeaidd gyda’i gilydd.

Bwriad yr ymweliad yw datblygu’r berthynas rhwng y ddwy wlad ymhellach ac mae disgwyl i gytundebau gwerth biliynau o bunnoedd gael sêl bendith dros y dyddiau nesaf.

Dywedodd David Cameron: “Nid ymweliad hanesyddol yn unig yw hwn, ond cyfle hanesyddol.

“Mae’n gyfle i ddwy wlad, sydd ynghlwm drwy ei hanes, ei phobl a’i gwerthoedd, i weithio gyda’i gilydd i oresgyn heriau mwyaf ein hoes.”

Awduron yn mynegi pryder am ryddid mynegiant

Mae mwy na 200 o awduron gan gynnwys Ian McEwan, Salman Rushdie a Val McDermid, wedi ysgrifennu llythyr agored at y Prif Weinidog yn galw arno i godi pryderon am ryddid mynegiant yn India yn ystod ei drafodaethau gyda Narendra Modi.

Mae’r llythyr wedi cael ei arwyddo gan aelodau a chefnogwyr y gymdeithas o awduron sydd o blaid rhyddid mynegiant, PEN Rhyngwladol.

Mae’n dilyn cyfres o ddigwyddiadau yn erbyn awduron ym Mangladesh eleni.

Dywedodd Llywydd PEN Cymru, Menna Elfyn wrth Golwg360 yn ddiweddar bod  “y sefyllfa yn ddychrynllyd.”