Mae Gweinidog yn y Swyddfa Dramor wedi cyfaddef nad ydynt yn gwybod os yw arfau sydd wedi cael eu prynu ym Mhrydain yn cael eu defnyddio gan Sawdi Arabia yn Yemen.

Mae Sawdi Arabia wedi bod yn cynnal cyrchoedd awyr yn y wlad ers mis Mawrth eleni, fel ymateb i ymgyrch filwrol ar ddaear gan Grŵp Houthi sy’n cael ei gefnogi gan Iran. O ganlyniad, mae sawl asiantaeth hawliau dynol wedi adrodd fod Sawdi Arabia wedi torri cyfraith rhyngwladol sawl tro yn ystod y cyfnod hwn.

Fe ddywedodd Gweinidog yn y Swyddfa Dramor, nad oedd yn gallu ateb y cwestiwn os oes arfau wedi’u cynhyrchu a’u trwyddedu ym Mhrydain yn cael eu defnyddio i dramgwyddo cyfraith hawliau dynol yn Yemen.

Cafodd y mater ei godi yn Nhy’r Arglwyddi gan y Farwnes Glenys Kinnock o Gaergybi. Amcangyfrifif fod 5,000 o bobol gyffredin wedi’u lladd yn y gwrthdaro hyd yma.

Fe ofynnodd Glenys Kinnock, “A fedr y Gweinidog roi prawf nad oes yna arfau wedi’u hallforio o Brydain, yn cynnwys awyrennau milwrol, wedi cael eu defnyddio i dorri cyfraith hawliau dynol?

Ymatebodd Iarll Courtown ar ran y Swyddfa Dramor, “Yn anffodus, alla’ i ddim ateb y cwestiwn, gan nad ydw i’n gwybod yr ateb i’r cwestiwn. Mae’r arfau yn cael eu cyflenwi gan Brydain i lu awyr Sawdi Arabia, ond mae Prydain yn gweithredu mesurau rheoli mwyaf llym yn y byd.”