Stormont
Mae angen i blaid Sinn Fein wynebu’r gwirionedd am fodolaeth yr IRA – neu wynebu’r canlyniadau gwleidyddol.

Dyna rybudd Mike Nesbitt, arweinydd plaid unoliaethol yr UUP heddiw, mewn araith i’w chynhadledd.

Mewn araith danllyd a chaled, fe ddywedodd bod ei benderfyniad i gerdded allan o bwyllgor rhannu grym Stormont wedi’i brofi’n iawn, wedi iddi ddod i’r amlwg fod Sinn Fein yn “gwadu” bobolaeth yr IRA.

Roedd hynny, meddai Mr Nesbitt, yn llosgi twll yn nemocratiaeth Gogledd Iwerddon.

“Rydyn ni eisiau parchu eich mandad wleidyddol,” meddai wrth Sinn Fein, “ond gwnewch hynny’n bosib i ni. Mae angen i chi fod ar yr un dudalen â gweddill y byd, neu mi fydd yn rhaid i chi wynebu oblygiadau’r dewisiadau ydych chi wedi’u gwneud.”

Yr wythnos ddiwetha’, roedd asesiad annibynnol o weithgareddau parafilwrol yng Ngogledd Iwerddon, yn cadarnhau fod yr IRA yn dal mewn bodolaeth, ond nad oedd yn gweithredu bellach. Fe ddaeth i’r casgliad hefyd bod rhai aelodau IRA yn credu fod Cyngor y mudiad yn dal i ddylanwadu ar Sinn Fein.