Mae dyfais ffrwydrol wedi’i thaflu at yr heddlu yn nwyrain dinas Belffast.

Fe gafodd y bom – er na wnaeth hi ffrwydro – ei thaflu at batrol yr heddlu yn ardal werinidaethol Short Strand neithiwr, ac mae Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Iwerddon wedi disgrifio’r weithred fel “gwallgofrwydd”.

Mae’r bys eisoes yn pwyntio at weriniaethwyr sy’n gwrthwynebu’r broses heddwch.

Fe gafodd nifer o drigolion yr ardal eu symud o’u tai tra’r oedd y gwasanaethau diogelwch yn ymchwilio i’r ymosodiad.