Fe wnaeth chwyddiant ostwng i ffigurau negyddol unwaith eto’r mis diwethaf wrth i ostyngiadau ym mhrisiau bwyd a phetrol ddod â chostau byw i lawr.

Roedd cyfradd chwyddiant y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) wedi cwympo o 0% ym mis Awst i
-0.1%.

Mae’r ffigurau chwyddiant wedi bod o gwmpas 0% ers mis Chwefror, ac roedd mesur chwyddiant mis Medi yr isaf ers mis Mawrth 1960, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Mae hyn yn golygu nad oes llawer o bwysau ar Fanc Lloegr i godi cyfraddau llog, er bod rhai swyddogion yn credu bod y pwysau yn cynyddu wrth i’r economi wella.

Tynnwyd chwyddiant yn is wrth i brisiau bwyd ddisgyn 2.5% yn y flwyddyn hyd at fis Medi, wrth i’r frwydr rhwng yr archfarchnadoedd barhau yn y diwydiant bwyd.

Dyma oedd y 15fed mis yn olynol i brisiau barhau i ostwng yn y sector hwn, yr hiraf ers i gofnodion ddechrau yn 1989.

Roedd prisiau petrol hefyd wedi tynnu chwyddiant i lawr, gyda phrisiau yn disgyn 3.7c y litr dros y flwyddyn, tra bod prisiau disel ar eu hisaf ers mis Rhagfyr 2009, ar 110.2c y litr.

“Mae chwyddiant ar -0.1% tra bod cyflogau yn codi ar gyfradd gyflymach ers dros ddegawd yn hwb gwirioneddol i deuluoedd sy’n gweithio,” meddai’r Canghellor George Osborne ar Twitter.