Mae dau o bobol wedi’u harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, wedi i gorff gael ei ganfod yn dilyn tân mewn ty yn Northampton.

Fe gafodd yr heddlu eu galw i’r adeilad yn y dre’ tua chanol dydd, ddydd Iau.

Fe ganfuwyd corff dyn y tu mewn, ac fe brofodd post mortem ddoe fod y dyn wedi marw cyn i’r tân gynnau.

Fe gafodd dynes 38 mlwydd oed ynghyd â dyn 50 oed, ill dau’n nabod y dyn a fu farw, eu hartestio gan yr heddlu yn hwyr neithiwr, ac maen nhw’n dal i fod yn y ddalfa.

Mae’r heddlu yn holi cymdogion a phobol yn ardal y tân, ac maen nhw’n apelio am wybodaeth.