Theresa May
Mae lefelau uchel o ffoaduriaid yn amharu ar yr undod o fewn y DU, mae disgwyl i Theresa May ddweud heddiw.

Yn ei haraith i gynhadledd y Blaid Geidwadol ym Manceinion, fe fydd yr Ysgrifennydd Cartref yn dweud bod miliynau o bobl o wledydd difreintiedig eisiau byw ym Mhrydain ond bod cyfyngiad ar nifer y ffoaduriaid y gallai’r wlad eu derbyn.

Mae Theresa May hefyd wedi cyhoeddi y bydd y Llywodraeth yn atal pobl o’r Undeb Ewropeaidd rhag gwneud cais am loches ym Mhrydain.

Yn ei haraith fe fydd Theresa May yn dweud ei bod yn “hollol ddealladwy” bod pobl eisiau bywyd gwell gan ychwanegu: “Er bod yn rhaid i ni gyflawni ein dyletswydd foesol i helpu pobl sydd mewn angen dybryd, mae’n rhaid i ni hefyd gael system sy’n ein caniatáu i reoli pwy sy’n dod i’n gwlad.

“Oherwydd pan mae lefelau mewnfudo yn rhy uchel.. mae’n amhosib sefydlu cymdeithas unedig.”

Ychwanegodd ei fod yn rhoi pwysau ar wasanaethau cyhoeddus fel ysgolion ac ysbytai, tai a thrafnidiaeth.

Araith olaf Boris

Yn y cyfamser fe fydd Boris Johnson yn rhybuddio bod angen diogelu’r rhai sydd ar  gyflogau isel wrth i’r Llywodraeth ddiwygio budd-daliadau lles.

Mae ’na alwadau cynyddol ar y Canghellor George Osborne i ail-ystyried toriadau i gredydau treth.

Ond mae David Cameron wedi amddiffyn y toriadau gan ddweud y bydd rhai teuluoedd ar eu hennill o £2,400 yn sgil y diwygiadau.

Fe fydd Boris Johnson yn cyflwyno ei araith olaf i’r gynhadledd fel Maer Llundain.