George Osborne, Canghellor y Trysorlys
Mae Canghellor y Deyrnas Unedig wedi penodi cyn weinidog yng Nghabinet Llafur i arwain comisiwn newydd er mwyn sicrhau bod “Prydain yn adeiladu”.

Dywedodd George Osborne y byddai’r Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol, sy’n cael ei gadeirio gan yr Arglwydd Adonis, yn tynnu gwleidyddiaeth allan o benderfyniadau adeiladu mawr ac yn dod i ben a’r “diogi” sydd wedi arwain at fethiant i adeiladu ffyrdd, rheilffyrdd, meysydd awyr, gorsafoedd pŵer a chartrefi.

Roedd y canghellor hefyd wedi cyhoeddi cynlluniau i gyfuno cronfeydd pensiwn 89 o awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr i chwe Chronfa Cyfoeth Prydeinig rhanbarthol, er mwyn cynyddu eu buddsoddiadau ym mhrosiectau adeiladu mawr.

Bydd yr Arglwydd Adonis, a oedd yn Ysgrifennydd Trafnidiaeth yng nghabinet Gordon Brown yn rhoi’r gorau i fod yn chwip y blaid Lafur ac yn eistedd fel croesfeinicwr yn Nhŷ’r Arglwyddi.

Bydd y gwaith yn dechrau’n syth, er mwyn canolbwyntio ar gynlluniau i wella cysylltiadau rhwng dinasoedd yng Ngogledd Lloegr a chynghori ar fuddsoddiadau i rwydwaith trafnidiaeth Llundain.

Cynhadledd

Wrth gyhoeddi’r cynlluniau mewn araith yng nghynhadledd y Ceidwadwyr ym Manceinion heddiw, mae disgwyl i George Osborne ddweud:

“Ble byddai Prydain os nad oeddwn wedi adeiladu rheilffyrdd na redfeydd, gorsafoedd pŵer na chartrefi? Ble byddwn ni yn y dyfodol os byddwn yn stopio eu hadeiladu nawr?

“Mae’n rhaid i ni ysgwyd Prydain o’i diogi ar y prosiectau pwysicaf.”

Cafodd y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol ei gynnig yn gyntaf gan Lafur yn ei maniffesto ar gyfer yr etholiad cyffredinol ym mis Mai, ac mae disgwyl i’r canghellor gydnabod hyn.