y pedwar yn y ras am arweinyddiaeth y Blaid Lafur
Mae’r Blaid Lafur ar fin cyhoeddi pwy fydd ei harweinydd newydd mewn cynhadledd arbennig yn Llundain yn hwyrach y bore yma.
Mae Tom Watson eisoes wedi ennill y ras i fod yn Ddirprwy Arweinydd.
Ar ôl wythnosau o ymgyrchu dros yr haf, mae’n amlwg bellach mai Jeremy Corbyn yw’r ffefryn clir o blith y pedwar ymgeisydd am yr arweinyddiaeth.
Y sibrydion diweddaraf yw y gall ennill ar y bleidlais gyntaf, fel na fydd angen cyfrif ail ddewisiadau’r ymgeiswyr eraill.
Yr ymgeiswyr eraill yw’r ddau gyn-weinidog Andy Burnham ac Yvette Cooper. Yr farn gyffredinol yw mai’r ymgeisydd lleiaf poblogaidd fydd Liz Kendall, a oedd yn gyson wedi bod yn fwy parod na neb o’r lleill i achub cam y cyn-brif weinidog dadleuol Tony Blair.
Mae dros 550,000 o bobl wedi cael cyfle i gymryd rhan yn y bleidlais, a’r rhain yn cynnwys aelodau’r blaid Lafur, undebwyr llafur, a phobl a oedd wedi cael cofrestru fel cefnogwyr am £3.
Yr amcangyfrif yw bod tua 113,000 o’r pleidleiswyr newydd hyn.
Yn ôl adroddiadau answyddogol, mae tua 76% o’r rhai a oedd â hawl i bleidleisio wedi gwneud hynny, gyda’r mwyafrif llethol o’r pleidleiswyr newydd wedi cefnogi Jeremy Corbyn.
Fe fydd enw dirprwy arweinydd newydd Llafur hefyd yn cael ei gyhoeddi yn y gynhadledd, a’r ffefryn y ras yw Tom Watson sy’n ymladd yn erbyn Ben Bradshaw, Stella Creasy, Angela Eagle a Caroline Flint.