Mae ymchwiliad llofruddiaeth ar y gweill, wedi i fachgen yn ei arddegau farw ar ôl cael ei drywanu yn ne-ddwyrain Llundain.

Fe gafodd yr heddlu eu galw i Brockley neithiwr, wedi adroddiadau fod dau fachgen 17 oed wedi’u trywanu.

Fe gafodd y ddau fachgen eu cludo i’r ysbyty, lle bu farw un ohonyn nhw. Mae’r llall mewn cyflwr sefydlog.

Mae ditectifs o adran Lofruddiaeth a Throsedd Difrifol heddlu’r Met yn ymchwilio i’r digwyddiad.