Mae nifer y gweithwyr ar gytundebau dim oriau wedi cynyddu dros bum gwaith, yn ôl ffigurau newydd.

Mae cyfanswm y bobl sy’n gweithio ar gytundeb dim oriau wedi cynyddu i 744,000, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Mae nifer y bobl sydd ar gytundebau dim oriau bellach yn cynrychioli 2.4% o’r gweithlu o’r holl bobl oedd mewn gwaith rhwng mis Ebrill a Mehefin o’i gymharu â’r un cyfnod y llynedd.

Mae ffigurau’r ONS yn dangos bod 40% o’r rheiny sydd ar gytundebau dim oriau eisiau rhagor o oriau gwaith.

Fe fydd y ffigurau newydd yn cynyddu’r amheuon am y cytundebau dadleuol, sy’n golygu nad yw gweithwyr yn gwybod faint o waith y byddan nhw’n ei gael o un wythnos i’r llall.

Mae ymchwil gan Gyngres yr Undebau Llafur (TUC) yn dangos fod pobl ar gytundebau dim oriau ar gyflog wythnosol o £188 ar gyfartaledd, o’i gymharu â £479 i weithwyr ar gytundebau parhaol.

‘Ansicrwydd’

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol y TUC,  Frances O’Grady: “Mae cytundebau dim oriau yn brawf o’r gweithlu dwy haen sy’n bodoli ym Mhrydain.

“Mae pobl sy’n cael eu cyflogi ar y cytundebau yma yn ennill £300 yn llai’r wythnos, ar gyfartaledd, na gweithwyr mewn swyddi parhaol.”

“Dw’n gosod her i unrhyw weinidog neu arweinydd busnes i fyw ar gytundeb dim oriau, heb wybod o un dydd i’r llall faint o waith y byddan nhw’n ei gael.”

Wrth ymateb, dywedodd un o’r ymgeiswyr am arweinyddiaeth y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, “Mae’r ffigurau hyn yn dangos cynnydd yn y tueddiadau gwaith tuag at gyflogau isel sy’n ansicr ac yn ecsbloetio gweithwyr.”