Cafodd dyn arfog ei saethu’n farw gan yr heddlu yn ardal Enfield o Lundain yn hwyr neithiwr.

Cafodd yr heddlu eu galw i floc o fflatiau ar Cedar Road ychydig cyn hanner nos yn dilyn adroddiadau fod dyn â dryll yno a’i fod yn bygwth lladd rhywun.

Fe wnaethon nhw saethu dyn gwyn, 43 oed, y tu allan i un o’r fflatiau ar y chweched llawr, ac fe fu farw yn y fan a’r lle.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Llundain na chafodd neb ei arestio ac nad oedd lle i gredu bod neb arall wedi cael ei anafu.

Ychwanegodd fod y digwyddiad, fel sy’n arferol mewn unrhyw achos fel hyn, wedi cael ei gyfeirio at Gomiswn Annibynnol Cwynion yn erbyn yr Heddlu ar gyfer ymchwiliad.