Mae dynes 39 oed wedi cael ei harestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth dyn drwy yrru’n beryglus ym Mryste.

Mae lle i gredu bod y ddynes wedi gyrru i ffwrdd yn dilyn y digwyddiad.

Daeth aelod o’r cyhoedd o hyd i gorff y dyn ifanc yn ardal Clifton y ddinas fore Sadwrn.

Mae’r heddlu wedi apelio am dystion i’r digwyddiad rhwng 4.30yb a 5.30yb.

Mae disgwyl i archwiliad post-mortem gael ei gynnal yn ddiweddarach.