Mae’r gantores Chrissie Hynde wedi cael ei beirniadu ar ôl dweud mai’r ferch sydd ar fai weithiau am gael ei threisio.

Dywedodd cantores 63 oed y ‘Pretenders’ ei bod hi’n beio’i hun am gael ei gorfodi a’i bygwth i gyflawni gweithredoedd rhyw.

Yn 21 oed, daeth Hynde i gyswllt â giang yn Ohio oedd wedi addo mynd â hi i barti, ond fe aethpwyd â hi i dŷ gwag a manteisio arni.

Ond dywed y gantores ei bod hi’n “llwyr gyfrifol” am y digwyddiad.

Dywedodd wrth gylchgrawn y Sunday Times: “Os ydych chi’n chwarae gyda thân, fe gewch chi eich llosgi. Dydy hynny ddim yn gyfrinach, nac ydy?”

Ychwanegodd Hynde fod merched sy’n gwisgo’n bryfoclyd wrth gerdded i lawr y stryd yn feddw ar fai os ydyn nhw’n cael eu treisio.

“Os ydw i’n cerdded o amgylch yn fy nillad isaf ac yn feddw? Bai pwy arall all hynny fod?

Dywedodd mai “synnwyr cyffredin” yw peidio pryfocio ymosodwr posib.

Ymateb elusen

Mae’r elusen Victim Support wedi beirniadu’r sylwadau, gan ddweud na ddylai dioddefwyr “feio’u hunain”.

Dywedodd cyfarwyddwr yr elusen, Lucy Hastings: “Ni ddylai dioddefwyr trais rhywiol fyth teimlo neu gael eu gorfodi i deimlo mai nhw oedd yn gyfrifol am y drosedd erchyll wnaethon nhw ei dioddef – waeth bynnag beth yw’r amgylchiadau neu’r ffactorau a allai fod wedi eu gwneud nhw’n fregus.

“Ni ddylen nhw feio’u hunain na chael eu beio am fethu ag atal ymosodiad – yn aml, fe fyddan nhw wedi cael eu targedu gan droseddwyr ysglyfaethus sy’n gyfrifol am eu gweithredoedd.

“Mae’n hanfodol nad yw unrhyw beth yn atal dioddefwyr trais rhywiol rhag mynd at yr heddlu neu i sefydliadau annibynnol fel y gallan nhw gael y cymorth a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnyn nhw.”