Ni fydd yn rhaid i’r Arglwydd Janner fod yn bresennol yn llys yr Old Bailey pan fydd achos yn erbyn yn cael ei gynnal yno.

Roedd disgwyl i’r arglwydd 87 mlwydd oed wynebu 22 o gyhuddiadau o gam-drin plant dros dri degawd.

Mae’n wynebu 15 cyhuddiad o ymosod yn anweddus, a 7 cyhuddiad o droseddu’n rhywiol yn erbyn cyfanswm o naw o blant yn ystod y 1960au, 1970au a’r 1980au.

Fe fydd y Barnwr Sweeney yn gwrando’r achos yn yr Old Bailey ddydd Mawrth am 2.30yp. Ond mae wedi dweud nad yw’n disgwyl i Arglwydd Janner fod yn bresennol.