Mae heddlu wedi arestio 27 o fewnfudwyr yn Surrey ar ôl dod o hyd iddyn nhw mewn lori.

Dywedodd Heddlu Surrey eu bod wedi dod o hyd i’r mewnfudwyr yn ngorsaf gwasanaethau Cobham ar yr M25 am 10.50yb heddiw.

Mae gyrrwr y lori hefyd wedi cael ei arestio.

“Cafodd Heddlu Surrey eu galw i orsaf gwasanaethau Cobham am 10.50yb ar dydd Gwener 28 Awst ar ôl amheuon ynglŷn â lori oedd wedi parcio yn y safle,” meddai datganiad gan yr heddlu.

“Ar ôl cyrraedd fe gafodd 27 o bobl eu harestio ar amheuaeth o ddod i’r wlad yn anghyfreithlon. Roedd cerbydau ambiwlans hefyd yno i roi asesiad meddygol i’r bobl.

“Mae Heddlu Surrey bellach wedi pasio cyfrifoldeb am yr ymchwiliad i Wasanaethau Fisas a Mewnfudo’r DU.”