Mae gyrwyr ifanc yn fwy tebyg o ddefnyddio’r ffôn wrth y llyw, yn ôl arolwg newydd.

Mae’r arolwg, a gafodd ei gomisiynu gan elusen diogelwch y ffyrdd, Brake, hefyd wedi canfod mai’r prif reswm tros ffonio tra’n dreifio ydi siarad gydag aelodau eraill o’r teulu.

Ar drothwy Gwyl y Banc, mae’r elusen wedi galw ar fodurwyr i ymwrthod rhag cael eu tarfu tra’n gyrru.

O’r 1,000 o bobol a holwyd, fe gyfaddefodd dros chwarter eu bod wedi siarad gyda aelodau eraill o’r teulu tra’n gyrru; tra bod 17% wedi dweud eu bod wedi siarad ar y ffôn am faerion yn ymwneud gyda gwaith; a 15% wedi siarad gyda ffrind.

I yrwyr rhwng 17 a 24 mlwydd oed, roedd y ffigurau yn codi yn syfrdanol, gyda 35% yn cyfaddef eu bod yn gwneud galwadau teuluol, 49% yn gwneud galwadau yn ymwneud â gwaith, a 21% i sgwrsio gyda ffrindiau.

Dyweodd Julie Townsend, ar ran yr elusen Brake, fod defnyddio ffonau symudol “yn peryglu bywyd ac yn gallu achosi damweiniau difrifol”.

“Mae’n anodd coelio fod y peryglon mwyaf sy’n wynebu modurwyr yn dod o ganlyniadau i alwadau gyda ffrindiau a theulu tra wrth y llyw,” meddai.

“Dyna pam ein bod yn galw ar bobol i roi eu diogelwch yn gyntaf, trwy wrthod siarad gyda aelodau eraill o’r teulu neu eu ffrindiau tra’n gyrru.”