Mae’r niferoedd sydd yn mewnfudo i’r DU wedi cynyddu i’w lefel uchaf erioed, yn ôl y ffigyrau swyddogol diweddaraf sydd wedi’u cyhoeddi.

Roedd ymfudo net – y gwahaniaeth rhwng y niferoedd sydd yn dod i’r DU a’r rheiny sydd yn gadael – yn 330,000 yn y flwyddyn yn arwain at fis Mawrth eleni.

Mae hyn 10,000 yn uwch na’r ffigwr uchaf blaenorol ym mis Mehefin 2005, ac yn gynnydd o dros draean o’i gymharu â’r un cyfnod y llynedd.

Yn ôl y Gweinidog Mewnfudo James Brokenshire, mae’r ffigyrau yn “hynod o siomedig”.

‘Rhybudd’

Dyma’r pumed chwarter yn olynol i’r ffigyrau godi, gyda 269,000 o’r rheiny yn ddinasyddion o’r Undeb Ewropeaidd sydd wedi dod i Brydain.

Mae’r nifer y bobl ym Mhrydain gafodd eu geni dramor hefyd wedi cynyddu i 8 miliwn am y tro cyntaf.

Roedd y Llywodraeth wedi dweud y byddai’n ceisio lleihau’r niferoedd i lai na 100,000, ac maen nhw wedi mynnu fod y ffigyrau diweddaraf yn “rybudd i’r UE” bod angen delio â mewnfudwyr newydd i Ewrop.

“Mae’r ffigyrau yma’n hynod o siomedig,” meddai James Brokenshire.

“Tra bod y ffigyrau yma’n tanlinellu’r heriau sydd yn ein hwynebu er mwyn lleihau ymfudo net, fe ddylen nhw hefyd fod yn rhybudd i’r UE.

“Mae’r llif o bobl sy’n symud ar draws Ewrop yn digwydd ar raddfa dydyn ni heb weld ers yr Ail Ryfel Byd.”

Mynnodd y gweinidog y byddai Bil Mewnfudo newydd y llywodraeth yn gwneud mwy i daclo’r rheiny sydd yn gweithio ym Mhrydain yn anghyfreithlon, a bod angen lleihau faint mae busnesau Prydain yn dibynnu ar weithwyr tramor.