Ysgrifennydd cyffredinol undeb PCS, Mark Serwotka
Mae pleidlais un o undebau llafur mwyaf gwledydd Prydain yn y ras am arweinyddiaeth y Blaid Lafur wedi cael ei gwrthod.

Roedd ysgrifennydd cyffredinol undeb PCS, Mark Serwotka wedi talu £3 er mwyn ymaelodi â’r blaid cyn pleidleisio dros Jeremy Corbyn.

Ond cafodd wybod nad oedd ei bleidlais yn ddilys.

Dydy’r PCS, undeb sy’n cynrychioli gweision sifil, ddim wedi’i chysylltu â’r Blaid Lafur.

Mae’r Blaid Lafur wedi gwrthod gwneud sylw am yr achos, ond fe ddywedodd llefarydd fod y blaid yn gwahardd pobol nad ydyn nhw’n rhannu eu hamcanion a’u gwerthoedd er mwyn atal unigolion rhag dylanwadu ar y bleidlais.

Ddoe, roedd arweinydd dros dro’r blaid Lafur, Harriet Harman wedi mynnu nad oes angen amau “hygrededd y bleidlais” yn dilyn trafodaeth gyda’r pedwar ymgeisydd am arweinyddiaeth y blaid.

Mae’n dilyn pryderon y gallai pobol nad oedd yn aelodau nac yn gefnogwyr o’r blaid Lafur, fod wedi cofrestru i ddylanwadu ar y bleidlais i ddewis olynydd i Ed Miliband.

Mae 3,000 o bobol wedi’u rhwystro hyd yn hyn rhag pleidleisio yn yr etholiad am nad ydynt yn gymwys i wneud hynny.

Bydd canlyniad y bleidlais yn cael ei gyhoeddi ar Fedi 12.