Gall mewnfudwyr anghyfreithlon sy’n gweithio yn y DU wynebu hyd at chwe mis yn y carchar a dirwyon amhenodol, yn ôl cyhoeddiad gan Lywodraeth Prydain heddiw.

Bydd y ddeddfwriaeth yn targedu siopau trwyddedig, tecawês a bwytai a allai fod yn cyflogi gweithwyr anghyfreithlon.

Daw’r ddeddfwriaeth newydd hon yn dilyn beirniadaeth lem yn erbyn y Llywodraeth am y modd y deliodd â’r argyfwng ymfudwyr diweddar yn Calais.

Yn ogystal, caiff ffigurau mewnfudo diweddaraf eu cyhoeddi ddydd Iau, lle bydd y Llywodraeth yn wyneb archwiliadau manwl ar eu mesurau ymfudo.

Mae cred y gallai’r ffigurau hynny ddangos bod lefelau mewnfudo wedi cyrraedd eu huchaf erioed.

Carchar a dirwyon

Mae’r Swyddfa Gartref wedi datgelu y gallai unrhyw un sy’n euog o fewnfudo neu gefnogi mewnfudo yng Nghymru a Lloegr wynebu dedfryd o hyd at chwe mis yn y carchar ynghyd â dirwy amhenodol.

Gall unrhyw dafarn, siop drwyddedig neu siop tecawê nad sy’n cydymffurfio â’r deddfau mewnfudo neu sy’n cyflogi gweithwyr anghyfreithlon, golli eu trwyddedau gwerthu. Bydd hyn yn rhoi’r hawl i swyddogion gau’r siop neu’r bwyty am 48 awr er mwyn cynnal archwiliadau dros hawliau cyfreithiol y staff.

Mae swyddogion hefyd yn ystyried ymestyn y mesur hwn at yrwyr tacsis.

“Fel llywodraeth un genedl, fe fyddwn ni’n parhau i fynd i’r afael â cham-drin ac yn sefydlu system mewnfudo a fydd er lles pobol Prydain a’r rhai sy’n dilyn y rheolau”, meddai James Brokenshire, y Gweinidog Mewnfudo.

‘Achos llys yn hwyr neu’n hwyrach’

Bydd y ddeddfwriaeth hefyd yn cynnwys cynyddu’r ddedfryd o ddwy flynedd hyd at bum mlynedd, ynghyd â chyflwyno dirwyon llymach i’r rhai sy’n troseddu.

“Y neges bwysicaf ry’n ni am ei chyfleu”, meddai ALP Mehmet o Migration Watch UK, “yw os ydych chi yma’n anghyfreithlon, ac yn dal i weithio, byddwch chi a'ch cyflogwr yn wynebu achos llys yn hwyr neu’n hwyrach”.

Fel rhan o’r mesur, bydd rhaid i fanciau wirio’r cyfrifon cyfredol yn erbyn y cronfeydd data ar fewnfudo.

Gall perchnogion tai nad sy’n llwyddo i gael gwared ar fewnfudwyr anghyfreithlon hefyd wynebu dedfryd o garchar.

Yn 2014, roedd 318,000 o fewnfudwyr wedi cyrraedd y wlad.  Gwelwyd y ffigwr ar ei uchaf erioed ym Mehefin 2005, pan ddaeth 320,000 o fewnfudwyr i’r DU.

Ond, roedd Don Flynn, Cyfarwyddwr Rhwydwaith Hawliau Mudwyr yn anghytuno ac yn beirniadu’r mesur newydd hwn.

Dywedodd fod cyflwyno dirwyon amhenodol ynghyd â’r posibilrwydd o garchar yn “anghymesur iawn i unrhyw niwed y gallai mewnfudwyr mewn sefyllfa fregus fod wedi ei wneud”.