Theresa May - dydi ei dulliau ddim yn gweithio, meddai Amnest
Dylai Theresa May ollwng ei rhethreg “galed” ac yn hytrach canolbwyntio ar sut y gall y Deyrnas Unedig arbed bywydau yn ystod ei hymweliad a Calais yfory, yn ôl Amnest Rhyngwladol.

Wrth ymateb i ffigyrau newydd sy’n tynnu sylw at yr argyfwng ffoaduriaid yn Ewrop, mae’r sefydliad rhyngwladol annibynnol i gefnogi hawliau dynol wedi ailadrodd ei alwad am greu lwybrau diogel a chyfreithiol i’r Undeb Ewropeaidd ar gyfer pobl sy’n chwilio am loches.

Yn ôl ffigyrau Frontex, asiantaeth ffiniau’r Undeb Ewropeaidd, recordiwyd 107,500 o deithiau i mewn i’r UE fis diwethaf – y tro cyntaf i’r nifer fod yn uwch na 100,000 ers i’r asiantaeth ddechrau cadw cofnodion o’r fath yn 2008.

Mae’r ffigwr mwy na thair gwaith yn uwch nag ym mis Gorffennaf 2014 gyda pobl sy’n ffoi o’r gwrthdaro yn Syria ac Afghanistan yn cyfrif am “y gyfran fwyaf”.

Tair gwaith y teithiau 

Yn ogystal, rhwng mis Ionawr a mis Gorffennaf eleni, recordiwyd bron i dair gwaith y teithiau i mewn i’r Undeb Ewropeaidd na’r nifer ddaeth yn ystod yr un cyfnod yn 2014.

Meddai Cyfarwyddwr Rhaglenni Ffoaduriaid y Deyrnas Unedig, Amnest Rhyngwladol, Steve Symonds: “Ni allai’r ffigurau fod yn gliriach. Ni all Ewrop osgoi’r argyfwng ffoaduriaid byd-eang mwyaf ers yr Ail Ryfel Byd.

“Mae angen i ni weld llwybrau diogel a chyfreithlon ar gyfer y rhai sy’n ceisio mynd i mewn Ewrop fel nad oes rhaid iddynt fentro croesi Môr y Canoldir neu cael eu gwasgu o dan lorïau yn Calais.

“Dylai’r Deyrnas Unedig chwarae rhan llawer mwy adeiladol yn yr argyfwng hwn trwy weithio gyda’n partneriaid yn yr UE i weld sut y gall Prydain darparu amddiffyniad i rai o’r bobl sy’n ffoi rhag gwrthdaro ac erledigaeth.”