Donald Trump
Fe fu Donald Trump yn bombardio Diana, Tywysoges Cymru, efo blodau am gyfnod wedi ei hysgariad oddi wrth fab y Frenhines. Dyna y mae un ddarlledwraig wedi’i honni mewn colofn bapur newydd.

Yn ôl Selina Scott, roedd y biliwnydd sydd â’i lygad ar fod yn Arlywydd nesa’ yr Unol Daleithiau, yn gweld Diana fel y “wraig berffaith”, ond roedd o’n codi ofn arni hi wrth anfon rhosod a thegeiriannau ati.

“Roedd hi’n dechrau ymddangos fel petai Trump yn ei stelcio,” meddai Selina Scott mewn erthygl ym mhapur The Sunday Times. “Dw i’n gwybod hyn oherwydd iddi hi ddweud hyn wrtha’ i… mi wnes i ei hannog i roi’r blodau i gyd yn y bin.”

Mae llefarydd ar ran Donald Trump wedi ymateb trwy ddweud fod ganddo ef a Diana “berthynas grêt, roedden nhw’n hoff iawn o’i gilydd, ond ddaeth yna ddim byd o’r berthynas.”