Syr Edward Heath
Mae pumed heddlu  wedi cadarnhau eu bod hwythau yn ymchwilio i honiadau o gam-drin plant yn rhywiol a wnaed yn erbyn y cyn-Brif Weinidog, Syr Edward Heath.

Heddlu Hampshire yw’r bumed heddlu i dderbyn honiadau amdano. Mae swyddogion yr heddlu yn Swydd Wiltshire, Llundain, Caint ac Ynys Jersey eisoes yn ymchwilio i honiadau yn erbyn y cyn-Brif Weinidog.

“Rydym ni’n ymchwilio i’r honiadau, ond does gennym ni ddim arall i’w ychwanegu ar hyn o bryd”, meddai llefarydd ar ran Heddlu Hampshire.

Dyn yn ei chwedegau

Ddydd Llun, fe wnaeth Heddlu Swydd Wiltshire apêl ar i dystion a dioddefwyr posibl i gysylltu â nhw, wrth i Syr Edward Heath ddod yn un o’r ffigyrau mwyaf uchel eu proffil i fod ynghlwm â honiadau hanesyddol o gam-drin plant yn rhywiol.

Mae dyn, sydd nawr yn ei chwedegau, yn honni iddo gael ei dreisio pan oedd yn 12 oed gan yr AS Ceidwadol yn 1961. Ond, bryd hynny, cafodd ei alw’n “gelwyddgi a ffantasïwr” pan roddodd wybod i weithwyr cymdeithasol deufis yn ddiweddarach.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Llundain:

“Ym mis Ebrill 2015, cyflwynwyd honiad o dreisio i wasanaeth Heddlu Llundain (MPS). Fe wnaeth swyddog o Operation Fairbank gyfweld â’r un gyflwynodd yr honiad o fewn yr un mis.

“Ond, ar ôl asesiad llawn i’r honiad, nid oedd unrhyw drywydd ymholi yn gallu cael ei ddilyn yn gymesur gan yr MPS.”

Dywedodd y llefarydd nad oedd yr heddlu yn barod i drafod pam y cafodd y penderfyniad hwnnw ei wneud.

Mae Heddlu Ynys Jersey hefyd wedi cadarnhau fod y cyn-Brif Weinidog yn rhan o ymchwiliad Operation Whistle, ymchwiliadau i honiadau hanesyddol o gam-drin ar yr ynys honno.

Lansiwyd Operation Whistle gan heddlu Jersey ym Mehefin fel rhan o Operation Hydrant, cyd-drefniant ar draws y DU i ymchwilio i drais rhywiol.

Heddlu Caint

Dywedodd Heddlu Caint ddoe eu bod nhw wedi derbyn adroddiad o ymosodiad rhywiol yn nwyrain y sir yn ystod y 1960au.

“Mae’r dioddefwr wedi enwi Syr Edward Heath mewn cysylltiad â’r honiad”, meddai llefarydd ar ran Heddlu Caint.

Cadarnhaodd Heddlu Swydd Wiltshire a’r NSPCC eu bod wedi derbyn “nifer o alwadau” yn dilyn eu hapêl am wybodaeth. “Bydd y tîm ymchwilio yn adolygu’r wybodaeth ac yn dilyn unrhyw drywydd ymchwilio sy’n cael ei chodi”, meddai’r heddlu mewn datganiad.

Dywedodd llefarydd hefyd nad oedden nhw’n medru cadarnhau faint o bobol oedd wedi cysylltu na “dilysrwydd” y galwadau hynny yn ystod y cam hwn.

Dynes o Salisbury

Yn ystod y 1990au, roedd disgwyl i Myra Ling-Ling Forde gael ei herlyn am redeg puteindy.

Ond, mae’n debyg y cafodd yr achos ei ollwng pan ddywedodd y byddai hi’n enwi Syr Edward Heath.

Cafodd Forde ei chyhuddo ar ddau achlysur gwahanol o droseddau yn ymwneud â rhedeg puteindy yn ddiweddarach mewn tŷ yn Salisbury.

Mae’r IPCC yn ymchwilio i weld a wnaeth Heddlu Swydd Wiltshire ddilyn yr honiadau a wnaed yn erbyn Syr Edward Heath yn y 1990au.

“Croesawu’r ymchwiliad”

Dywedodd Sefydliad Elusennol Syr Edward Heath eu bod nhw’n “croesawu’r ymchwiliad gan Heddlu Swydd Wiltshire”.

“Rydym ni’n credu’n llwyr y bydd hyn yn adfer enw da Syr Edward Heath a byddwn ni’n cydweithredu’n llawn â’r heddlu yn eu hymchwiliadau”, meddai llefarydd ar ran y sefydliad.

Dywedodd y cyn AS Ceidwadol, Brian Binley, wrth BBC Radio 4 ei fod yn “anodd credu’r” honiadau.

Gweithiai Brian Binley yn yr un swyddfa â Syr Edward Heath am gyfnod, ac meddai, “Mae yna nifer o gwestiynau sydd heb eu hateb a dwi ddim yn meddwl y byddai’n iawn nac yn deg i neidio i gasgliadau am ddyn a wasanaethodd ei wlad ag urddas a gofal”.

“Mae’n rhaid inni fod yn ofalus”, ychwanegodd.

Ni wnaeth Syr Edward Heath, a arweiniodd y Llywodraeth Geidwadol rhwng 1970 a 1974, erioed briodi, ac roedd e’n adnabyddus am gynnal bywyd preifat a thawel.

Bu farw yn ei gartref yn Salisbury yn 89 oed ym mis Gorffennaf 2005.