Stuart Baggs
Mae cwestiynau’n parhau ynglyn ag achos marwolaeth sydyn cyn gystadleuydd ar raglen realaeth The Apprentice, Stuart Baggs, wedi i ganlyniadau prawf post mortem fethu â chanfod rheswm.

Er hyn, mae heddlu Ynys Manaw yn dweud nad oes ganddyn nhw achos i gredu fod yna unrhyw amgylchiadau amheus i farwolaeth y dyn 27 mlwydd oed.

Roedd Stuart Baggs yn rhedeg ei gwmni cyfathrebu ei hun yn Ynys Manaw, ac fe ddaethpwyd o hyd i’w gorff mewn adeilad ym mhrifddinas yr ynys, Douglas, tua 9yb ddydd Iau.

Stuart Baggs oedd y cystadleuydd ieuengaf erioed i gymryd rhan yn y rhaglen, pan fu’n ymgiprys am swydd gan yr Arglwydd Sugar ar gyfer 2010. Roedd yn 21 oed ar y pryd.