Mae tân mewn lori ar yr M6 wedi toddi arwyneb y lon, gan achosi i’r draffordd gael ei chau am gyfnod.
Mae’r grwp o heddweision sy’n gofalu am ardal y draffordd, yr CMPG, yn dweud eu bod yn disgwyl i’r M6 fod ar gau tan beth bynnag 1yp heddiw, a hynny i gyfeiriad y de o gyffrodd 13 ger Stafford.
“Mae angen gwneud yn siwr fod y contractwyr yn cael digon o amser i wneud eu gwaith a rhoi wyneb newydd i’r ffordd,” meddai’r CMPG mewn datganiad.
Roedd swyddogion yr heddlu wedi cyhoeddi llun o’r lori ar dân ar wefan gymdeithasol Twitter, gan dynnu sylw at y tyllau yn y ffordd oedd wedi’u hachosi gan wres y fflamau.