Plismyn ar y traeth yn Sousse yr wythnos ddiwethaf (llun: PA)
Mae disgwyl i ragor o ymwelwyr o Brydain ddychwelyd adref o Tunisia heddiw, ar ôl i’r Llywodraeth eu hannog i adael y wlad.

Mae cwmnïau gwyliau wedi trefnu awyrennau ychwanegol ar gyfer hyd at 3,000 o Brydeinwyr sy’n dal yno.

Daw cyngor y Llywodraeth yn sgil pryderon am ymosodiad arall wedi i Seifeddine Rezgui lofruddio 38 o ymwelwyr ar draeth yn nhref glan-môr Sousse yr wythnos ddiwethaf.

Mae amheuon fod pobl sy’n gysylltiedig â’r ymosodiad yn Souse yn dal yn rhydd yn y wlad.

Dywedodd llefarydd ar ran y Llywodraeth fod gwaith sylweddol angen ei wneud i wella diogelwch i ymwelwyr yn Tunisia, ac na fydd y cyngor i gadw draw oddiyno yn debyg o newid am beth amser.

Beirniadu

Mae’r penderfyniad wedi cael ei feirniadu gan lywodraeth Tunisia, sy’n rhybuddio fod Prydain yn chwarae i ddwylo’r eithafwyr treisgar.

“Dyma’r hyn y mae ar Islamic State ei eisiau,” meddai. “Trwy ddifrodi twristiaeth, trwy gael tramorwyr i adael y wlad, maen nhw’n difrodi’r holl sector a rhoi pobl allan o waith ar y strydoedd.”

Dywed yr Ysgrifennydd Tramor Philip Hammond fodd bynnag fod y Llywodraeth wedi ystyried yn ofalus cyn cyhoeddi’r cyngor, ac ychwanegodd y bydd Prydain yn dal i weithio gyda Tunisia i wella diogelwch yno.