Mae cylchgrawn yr NME  wedi cyhoeddi y bydd copïau yn cael eu dosbarthu am ddim o hyn ymlaen er mwyn hybu nifer ei ddarllenwyr.

Ar hyn o bryd mae’r cyhoeddiad yn gwerthu tua 15,000 o gopïau yn wythnosol, ond eu gobaith yw cynyddu hynny i ryw 300,000 wrth roi’r cylchgrawn am ddim mewn gorsafoedd, siopau a cholegau.

Bydd y cylchgrawn am ddim yn lansio ar 18 Medi, gyda’r cyhoeddwyr Publisher Time Inc yn dweud y bydd cerddoriaeth yn parhau’n ganolog ond bod lle i erthyglau am ffilm, ffasiwn, technoleg a gemau hefyd.

Cafodd y cylchgrawn, sydd â’r enw ffurfiol New Musical Express, ei lansio yn 1952 ac roedd ar ei anterth yn ystod yr 1960au gan hybu grwpiau fel y Beatles a’r Rolling Stones.

‘Symud gyda’r oes’

Bydd y cylchgrawn hefyd yn cryfhau ei gwefan ar-lein, rhan o’r newidiadau er mwyn symud gyda’r oes ddigidol yn ôl y golygydd presennol Mike Williams.

“Mae NME yn sefydliad pwysig ac yn ddylanwad mawr yn y sin cerddorol yn barod, ond gyda’r newid yma fe fyddwn ni’n fwy, yn gryfach ac yn fwy dylanwadol nag erioed o’r blaen,” meddai’r golygydd.

“Mae pob brand cyfryngol ar siwrne i ddyfodol digidol. Dyw hynny ddim yn golygu gadael print ar ôl, ond mae’n golygu bod rhaid i brint newid, felly dw i’n gyffrous iawn am y rôl fydd e nawr yn chwarae fel rhan o’r NME newydd.

“Mae’r dyfodol yn le cyffrous, ac mae NME newydd gicio’r drws i lawr.”