Mae’r Dalai Lama wedi amddiffyn ei ymddangosiad yng ngŵyl Glastonbury yn ddiweddarach heddiw.
Mae llywodraeth Tsieina wedi’i feirniadu am fanteisio ar y cyfle i annerch y dorf, ac maen nhw’n gofidio y gallai annog gweithgarwch gwrth-lywodraeth yn enw crefydd.
Wedi iddo lanio ym maes awyr Heathrow ddoe, dywedodd y Dalai Lama, sy’n 79 oed: “Mae’n ymateb eithaf anarferol.
“Pryd bynnag dw i’n cyfarfod â phobol neu sefydliad, mae swyddogion Tsieina bob amser yn protestio.
“O’u safbwynt nhw, mae’n eithaf rhesymol.
“Maen nhw’n fy ystyried i’n ddihiryn felly mae’n rhaid iddyn nhw wrthwynebu gweithgarwch y dihiryn, er nad ydw i’n ceisio annibyniaeth nac ymwahanu.”
Ychwanegodd y byddai’n pwysleisio wrth y dorf pa mor bwysig yw ystyried lles pawb ar y Ddaear.
“Mae dyfodol pob unigol yn dibynnu’n fawr ar weddill y gymuned.
“Pan ydw i’n dod o hyd i gyfle i rannu rhai o’m credoau a’m profiad, dw i’n hapus.
“Pa fath o bethau maen nhw am eu clywed, wn i ddim.
“Byddaf yn ystyried bod y gynulleidfa’n fodau dynol. Yn feddyliol, yn emosiynol, yn gorfforol, rydyn ni i gyd yr un fath.”
Ond ychwanegodd na fyddai’n cynnig unrhyw fath o berfformiad cerddorol, gan fod hynny wedi’i “wahardd”, meddai.
“Ond all neb eich atal chi rhag gwrando!”
Protestiadau
Mae nifer o brotestiadau wedi cael eu cynnal eisoes, gan gynnwys honno gan y Gymuned Shugden Ryngwladol, sy’n honni bod y Dalai Lama yn erlid mynachod Shugden Tibet.
Roedd mwy na 500 o brotestwyr yn King’s Cross brynhawn ddoe, ac mae disgwyl protest arall ddydd Llun yn Swydd Hampshire.
Ond mae’r Dalai Lama yn mynnu bod Shugden yn “niweidiol” i’r ddynoliaeth.