Mae’r canwr Rolf Harris, sydd yn y carchar am droseddau rhyw, wedi ysgrifennu cân yn beirniadu’r menywod oedd wedi dwyn achos yn ei erbyn.

Cafodd Harris, 85, ei garcharu am chwe blynedd y llynedd, wedi i lys ei ganfod yn euog o 12 o droseddau rhyw.

Mae’r gân yn honni bod y menywod wedi gwneud cwynion yn ei erbyn am resymau ariannol, meddai adroddiad yn y Mail on Sunday.

Mewn llythyr at ei ffrind a gafodd ei gyhoeddi gan y papur newydd heddiw, dywedodd Harris fod y menywod yn benderfynol o gael arian drwy ei bardduo.

Mae lle i gredu bod Harris wedi anfon y llythyr o’r carchar yn Stafford i’w ffrind, oedd wedi mynd at y papur i gael cyhoeddi ei gynnwys.

Meddai llinellau’r gân: “Perhaps you believe you’re pretty still, some perfumed sultry wench? Make him burn, get your 50-year-old hooks into his dough. Make him burn, burn, burn. Come and join the feeding frenzy, girls.”

Yn ôl adroddiadau, mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn ymchwilio i ragor o gwynion yn erbyn y canwr a’r diddanwr sy’n enedigol o Awstralia.

Pan gafodd ei ddedfrydu, dywedodd y barnwr yn Llys y Goron Southwark nad oedd Harris yn edifar am ei droseddau.

Dywed yr erthygl yn y Mail on Sunday fod Harris yn bwriadu recordio a rhyddhau’r gân pan fydd e’n cael ei ryddhau o’r carchar, tra bod eraill yn galw ar yr awdurdodau i wrthod ei ryddhau cyn i’w ddedfryd ddod i ben.