Syr Christopher Lee yn hyrwyddo'r ffilm Lord of the Rings
Mae’r actor Syr Christopher Lee wedi marw yn 93 oed.

Bu farw ddydd Sul mewn ysbyty yn Llundain.

Roedd wedi ymddangos mewn mwy na 250 o ffilmiau gan gynnwys ffilmiau arswyd Hammer, ffilm James Bond, The Man With The Golden Gun, ac yn fwyaf diweddar yn ei rôl fel Saruman yn y gyfres o ffilmiau Lord Of The Rings.

Nid oedd wedi rhoi’r gorau i weithio a dwy flynedd yn ôl cafodd ei anrhydeddu gan Sefydliad Ffilm Prydain (BFI).

Dywedodd yr actor Reece Shearsmith: “Wedi tristau’n fawr o glywed am farwolaeth Christopher Lee. Roedd yn ddyn anhygoel a oedd wedi chwarae cymaint o gymeriadau eiconig. Bydd colled fawr ar ei ôl.”

Ychwanegodd y cyflwynydd Jonathan Ross: “Mor drist i glywed bod Syr Christopher Lee wedi marw. Actor arbennig iawn, seren arbennig, canwr syfrdanol o dda, a dyn hyfryd iawn.”