Mae un o ohebwyr The Sun wedi ei ganfod yn euog o dalu £22,000 i blismon am straeon dros gyfnod o bedair blynedd.

Roedd y gohebydd troseddol Anthony France, 41, o Watford wedi talu’r Cwnstabl Timothy Edwards am 38 o straeon.

Bydd y gohebydd yn cael ei ddedfrydu wythnos i heddiw wedi iddo’i gael yn euog o gynorthwyo’r heddwas i gamymddwyn rhwng Mawrth 2008 a Gorffennaf 2011. Roedd y Cwnstabl Timothy Edwards yn gweithio i’r adran gwrthderfysgaeth ym Maes Awyr Heathrow ar y pryd.