Stormont
Mae arweinydd yr SDLP wedi cyhoeddi ei fod yn gadael Stormont er mwyn canolbwyntio ar gadw ei sedd yn San Steffan.

Cadwodd Alasdair McDonnell, a gafodd ei ethol yn 2005, ei sedd yn Ne Belfast gyda 9,560 o bleidleisiau.

Mae’r broses o ddod o hyd i arweinydd newydd yn Stormont eisoes ar y gweill.

Dywedodd wrth raglen Sunday Politics y BBC: “Bydd yn trafod gyda’r blaid y broses o symud ymlaen gan fy mod i bellach wedi cadw fy sedd yn San Steffan am y trydydd gwaith ac mae hynny’n gyflawniad mawr.

“Mae De Belfast yn parhau’n fwyafrif i’r unoliaethwyr.”

Cadwodd yr SDLP eu seddi yn Foyle a De Down yn dilyn yr etholiad cyffredinol.

Does dim hawl bellach gan wleidyddion yng Ngogledd Iwerddon i fod yn aelodau seneddol ac yn aelodau cynulliad ar yr un pryd yn dilyn deddfwriaeth fydd yn dod i rym y flwyddyn nesaf.

Y DUP yw’r blaid fwyaf yng Ngogledd Iwerddon o hyd, ond roedd ambell fuddugoliaeth annisgwyl i’r UUP nos Iau.

Enillon nhw seddi De Antrim and Fermanagh a De Tyrone er mwyn dychwelyd i San Steffan yn dilyn cyfnod heb gynrychiolwyr.