Safle niwclear Sellafield yn Cumbria
Mae gweithwyr ar safle niwclear Sellafield wedi pleidleisio dros weithredu’n ddiwydiannol mewn ffrae am iechyd a diogelwch.

Mae undeb Unite wedi cyhoeddi fod 1,200 o’i aelodau ar y safle yn Cumbria wedi pleidleisio’n unfrydol o blaid gweithredu’n ddiwydiannol, wrth i’r undeb alw ar y cwmni i ail-ddechrau trafodaethau.

Bydd cyfarfod yn cael ei gynnal yr wythnos nesaf i benderfynu pa gamau y byddan nhw’n ei gymryd yn ystod y gweithredu diwydiannol.

Mae Unite yn dweud eu bod wedi ceisio penodi swyddog yr undeb i rôl iechyd a diogelwch yn Sellafield ers dros 10 mis ond bod eu cais wedi cael ei “anwybyddu”.

‘Anwybyddu cais’

Dywedodd llefarydd ar ran yr Undeb: “Mae ein haelodau wedi colli amynedd gyda’r rheolwyr sydd wedi parhau i anwybyddu ein cais rhesymol.

“Y cwbl mae ein haelodau yn gofyn amdano ydi’r hawl i gydweithiwr fod yn gynrychiolydd yn Sellafield i gynrychioli gweithwyr a’u cadw nhw’n ddiogel.”

Mae’r Undeb yn teimlo fod angen gwella mesurau diogelwch yn Sellafield: “Mae’n gwneud synnwyr i’n haelodau a’r cwmni  a bydd yn helpu i wella’r berthynas rhwng y gweithwyr a’r rheolwyr, ynghyd â gwella’r diwylliant diogelwch a lles ar y safle.

Pryderon

Mynnodd yr Undeb nad yw’r rheolwyr wedi ystyried eu pryderon,

“Nid oes gan aelodau Unite ddymuniad i weithredu ond maent yn gorfod gwneud hynny gan gwmni sy’n gwrthod cymryd pryderon ein haelodau o ddifrif.”

Ychwanegodd, “Mae Unite yn galw ar Sellafield i ddychwelyd i drafodaethau difrifol.”